Diarhebion 8:30-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Yr oeddwn i wrth ei ochr yn gyson,yn hyfrydwch iddo beunydd,yn ddifyrrwch o'i flaen yn wastad,

31. yn ymddifyrru yn y byd a greodd,ac yn ymhyfrydu mewn pobl.

32. “Yn awr, blant, gwrandewch arnaf;gwyn eu byd y rhai sy'n cadw fy ffyrdd.

33. Gwrandewch ar gyfarwyddyd, a byddwch ddoeth;peidiwch â'i anwybyddu.

34. Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwrando arnaf,sy'n disgwyl yn wastad wrth fy nrws,ac yn gwylio wrth fynedfa fy nhŷ.

35. Yn wir, y mae'r un sy'n fy nghael i yn cael bywyd,ac yn ennill ffafr yr ARGLWYDD;

36. ond y mae'r un sy'n methu fy nghael yn ei ddinistrio'i hun,a phawb sy'n fy nghasáu yn caru marwolaeth.”

Diarhebion 8