Diarhebion 8:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd,ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn.

16. Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod,ac y barna penaethiaid yn gyfiawn.

17. Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i,ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael.

18. Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd,digonedd o olud a chyfiawnder.

19. Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth,a'm cynnyrch yn well nag arian pur.

20. Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder,ar ganol llwybrau barn,

21. a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm câr,a llenwi eu trysordai.

Diarhebion 8