Diarhebion 7:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. yn y cyfnos, yn hwyr y dydd,pan oedd yn dechrau nosi a thywyllu.

10. Daeth dynes i'w gyfarfod,wedi ei gwisgo fel putain, ac yn llawn ystryw—

11. un benchwiban a gwamal,nad yw byth yn aros gartref,

12. weithiau ar y stryd, weithiau yn y sgwâr,yn llercian ym mhob cornel—

13. y mae'n cydio ynddo ac yn ei gusanu,ac yn ddigon wynebgaled i ddweud wrtho,

Diarhebion 7