Diarhebion 7:3-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Rhwym hwy am dy fysedd,ysgrifenna hwy ar lech dy galon.

4. Dywed wrth ddoethineb, “Fy chwaer wyt ti”,a chyfarch ddeall fel câr,

5. i'th gadw dy hun rhag y wraig ddieithr,a rhag yr estrones a'i geiriau gwenieithus.

6. Yr oeddwn yn ffenestr fy nhŷ,yn edrych allan trwy'r dellt

7. ac yn gwylio'r rhai ifainc gwirion;a gwelais yn eu plith un disynnwyr

8. yn mynd heibio i gornel y stryd,ac yn troi i gyfeiriad ei thŷ

9. yn y cyfnos, yn hwyr y dydd,pan oedd yn dechrau nosi a thywyllu.

10. Daeth dynes i'w gyfarfod,wedi ei gwisgo fel putain, ac yn llawn ystryw—

11. un benchwiban a gwamal,nad yw byth yn aros gartref,

12. weithiau ar y stryd, weithiau yn y sgwâr,yn llercian ym mhob cornel—

13. y mae'n cydio ynddo ac yn ei gusanu,ac yn ddigon wynebgaled i ddweud wrtho,

14. “Roedd yn rhaid imi offrymu heddoffrymau,ac rwyf newydd gyflawni f'addewid;

15. am hynny y deuthum allan i'th gyfarfodac i chwilio amdanat, a dyma fi wedi dy gael.

16. Taenais ar fy ngwely gwrlido frethyn lliwgar yr Aifft;

17. ac rwyf wedi persawru fy ngwelyâ myrr, aloes a sinamon.

18. Tyrd, gad inni ymgolli mewn cariad tan y bore,a chael mwynhad wrth garu.

Diarhebion 7