Diarhebion 6:6-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ti ddiogyn, dos at y morgrugyn,a sylwa ar ei ffordd a bydd ddoeth.

7. Er nad oes ganddo arweinyddna rheolwr na llywodraethwr,

8. y mae'n darparu ei gynhaliaeth yn yr haf,yn casglu ei fwyd amser cynhaeaf.

9. O ddiogyn, am ba hyd y byddi'n gorweddian?Pa bryd y codi o'th gwsg?

10. Ychydig gwsg, ychydig hepian,ychydig blethu dwylo i orffwys,

11. a daw tlodi arnat fel dieithryn creulon,ac angen fel gŵr arfog.

12. Un dieflig, un drwg,sy'n taenu geiriau dichellgar,

13. yn wincio â'i lygad, yn pwnio â'i droed,ac yn gwneud arwyddion â'i fysedd.

Diarhebion 6