Diarhebion 6:3-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. yna gweithreda fel hyn, fy mab, ac achub dy hun:gan dy fod yn llaw dy gymydog,dos ar frys ac ymbil â'th gymydog;

4. paid â rhoi cwsg i'th lygaidna gorffwys i'th amrannau;

5. achub dy hun fel ewig o afael yr heliwr,neu aderyn o law yr adarwr.

6. Ti ddiogyn, dos at y morgrugyn,a sylwa ar ei ffordd a bydd ddoeth.

7. Er nad oes ganddo arweinyddna rheolwr na llywodraethwr,

8. y mae'n darparu ei gynhaliaeth yn yr haf,yn casglu ei fwyd amser cynhaeaf.

9. O ddiogyn, am ba hyd y byddi'n gorweddian?Pa bryd y codi o'th gwsg?

10. Ychydig gwsg, ychydig hepian,ychydig blethu dwylo i orffwys,

11. a daw tlodi arnat fel dieithryn creulon,ac angen fel gŵr arfog.

12. Un dieflig, un drwg,sy'n taenu geiriau dichellgar,

Diarhebion 6