Diarhebion 6:21-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. clyma hwy'n wastad yn dy galon,rhwym hwy am dy wddf.

22. Fe'th arweiniant ple bynnag yr ei,a gwylio drosot pan orffwysi,ac ymddiddan â thi pan gyfodi.

23. Oherwydd y mae gorchymyn yn llusern, a chyfarwyddyd yn oleuni,a cherydd disgyblaeth yn arwain i fywyd,

24. ac yn dy gadw rhag gwraig cymydoga rhag gweniaith y ddynes estron.

25. Paid â chwennych ei phrydferthwch,a phaid â gadael i'w chiledrychiad dy ddal;

26. oherwydd gellir cael putain am bris torth,ond y mae gwraig rhywun arall yn chwilio am fywyd brasach.

27. A all dyn gofleidio tân yn ei fynwesheb losgi ei ddillad?

Diarhebion 6