Diarhebion 6:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Ychydig gwsg, ychydig hepian,ychydig blethu dwylo i orffwys,

11. a daw tlodi arnat fel dieithryn creulon,ac angen fel gŵr arfog.

12. Un dieflig, un drwg,sy'n taenu geiriau dichellgar,

13. yn wincio â'i lygad, yn pwnio â'i droed,ac yn gwneud arwyddion â'i fysedd.

14. Ei fwriad yw gwyrdroi, cynllunio drwg yn wastad,a chreu cynnen.

15. Am hynny daw dinistr arno yn ddisymwth;fe'i dryllir yn sydyn heb fodd i'w arbed.

Diarhebion 6