Diarhebion 5:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. er mwyn iti ddal ar synnwyrac i'th wefusau ddiogelu deall.

3. Y mae gwefusau'r wraig ddieithr yn diferu mêl,a'i geiriau yn llyfnach nag olew,

4. ond yn y diwedd y mae'n chwerwach na wermod,yn llymach na chleddyf daufiniog.

5. Prysura ei thraed at farwolaeth,ac arwain ei chamre i Sheol.

Diarhebion 5