Diarhebion 5:16-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Paid â gadael i'th ffynhonnau orlifo i'r ffordd,na'th ffrydiau dŵr i'r stryd.

17. Byddant i ti dy hun yn unig,ac nid i'r dieithriaid o'th gwmpas.

18. Bydded bendith ar dy ffynnon,a llawenha yng ngwraig dy ieuenctid,

19. ewig hoffus, iyrches ddymunol;bydded i'w bronnau dy foddhau bob amser,a chymer bleser o'i chariad yn gyson.

20. Fy mab, pam y ceisi bleser gyda gwraig ddieithr,a chofleidio estrones?

21. Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwylio ffyrdd pob un,ac yn chwilio ei holl lwybrau.

22. Delir y drygionus gan ei gamwedd ei hun,ac fe'i caethiwir yng nghadwynau ei bechod;

23. bydd farw o ddiffyg disgyblaeth,ar goll oherwydd ei ffolineb mawr.

Diarhebion 5