Diarhebion 4:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Gofala osgoi geiriau twyllodrus,a chadw draw oddi wrth siarad dichellgar.

25. Cadw dy lygaid yn unionsyth,ac edrych yn syth o'th flaen.

26. Rho sylw i lwybr dy droed,i'th holl ffyrdd fod yn ddiogel.

27. Paid â throi i'r dde nac i'r chwith,a chadw dy droed rhag y drwg.

Diarhebion 4