Diarhebion 31:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. cânt hwy yfed ac anghofio'u tlodi,a pheidio â chofio'u gofid byth mwy.

8. Dadlau o blaid y mud,a thros achos yr holl rai diobaith.

9. Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn;cefnoga achos yr anghenus a'r tlawd.

10. Pwy a all ddod o hyd i wraig fedrus?Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.

11. Y mae calon ei gŵr yn ymddiried ynddi,ac ni fydd pall ar ei henillion.

12. Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled,a hynny ar hyd ei hoes.

13. Y mae'n ceisio gwlân a llin,ac yn cael pleser o weithio â'i dwylo.

14. Y mae, fel llongau masnachwr,yn dwyn ei hymborth o bell.

Diarhebion 31