Diarhebion 31:12-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled,a hynny ar hyd ei hoes.

13. Y mae'n ceisio gwlân a llin,ac yn cael pleser o weithio â'i dwylo.

14. Y mae, fel llongau masnachwr,yn dwyn ei hymborth o bell.

15. Y mae'n codi cyn iddi ddyddio,yn darparu bwyd i'w thylwyth,ac yn trefnu gorchwylion ei morynion.

16. Ar ôl ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes,ac yn plannu gwinllan â'i henillion.

17. Y mae'n gwregysu ei llwynau â nerth,ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau.

18. Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol,ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos.

19. Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail,a'i dwylo'n gafael yn y werthyd.

20. Y mae'n estyn ei llaw i'r anghenus,a'i dwylo i'r tlawd.

Diarhebion 31