Diarhebion 31:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Geiriau Lemuel brenin Massa, y rhai a ddysgodd ei fam iddo:

2. Beth yw hyn, fy mab, mab fy nghroth?Beth yw hyn, mab fy addunedau?

3. Paid â threulio dy nerth gyda merched,na'th fywyd gyda'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd.

4. Nid gweddus i frenhinoedd, O Lemuel,nid gweddus i frenhinoedd yfed gwin,ac nid gweddus i reolwyr flysio diod gadarn,

5. rhag iddynt yfed, ac anghofio'r hyn a ddeddfwyd,a gwyrdroi achos y rhai gorthrymedig i gyd.

Diarhebion 31