Diarhebion 30:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Gofynnaf am ddau beth gennyt;paid â'u gwrthod cyn imi farw:

8. symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf;paid â rhoi imi dlodi na chyfoeth;portha fi â'm dogn o fwyd,

9. rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu,a dweud, “Pwy yw'r ARGLWYDD?”Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr,a gwneud drwg i enw fy Nuw.

10. Paid â difrïo gwas wrth ei feistr,rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog.

11. Y mae rhai yn melltithio'u tad,ac yn amharchu eu mam.

12. Y mae rhai yn bur yn eu golwg eu hunain,ond heb eu glanhau o'u haflendid.

Diarhebion 30