Diarhebion 3:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear,ac â deall y sicrhaodd y nefoedd;

20. trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau,ac y defnynna'r cymylau wlith.

21. Fy mab, dal d'afael ar graffter a phwyll;paid â'u gollwng o'th olwg;

22. byddant yn iechyd i'th enaid,ac yn addurn am dy wddf.

23. Yna cei gerdded ymlaen heb bryder,ac ni fagla dy droed.

Diarhebion 3