Diarhebion 3:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb,a'r un sy'n berchen deall.

14. Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian,a'i chynnyrch yn well nag aur.

15. Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau,ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.

16. Yn ei llaw dde y mae hir oes,a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.

17. Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd,a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.

18. Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi,a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi.

19. Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear,ac â deall y sicrhaodd y nefoedd;

20. trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau,ac y defnynna'r cymylau wlith.

Diarhebion 3