Diarhebion 29:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Y mae'r un sy'n caru doethineb yn rhoi llawenydd i'w dad,ond y mae'r un sy'n cyfeillachu â phuteiniaid yn gwastraffu ei eiddo.

4. Y mae brenin yn rhoi cadernid i wlad trwy gyfiawnder,ond y mae'r un sy'n codi trethi yn ei difa.

5. Y mae'r sawl sy'n gwenieithio wrth ei gyfaillyn taenu rhwyd i'w draed.

6. Rhwydir y drygionus gan gamwedd,ond y mae'r cyfiawn yn canu'n llawen.

7. Y mae'r cyfiawn yn gwybod hawliau'r tlodion,ond nid yw'r drygionus yn ystyried deall.

8. Y mae'r gwatwarwyr yn creu cyffro mewn dinas,ond y mae'r doethion yn tawelu dicter.

9. Os â un doeth i gyfraith â ffŵl,bydd y ffŵl yn cythruddo ac yn gwawdio,ac ni cheir llonyddwch.

10. Y mae rhai gwaedlyd yn casáu'r un cywir,ond y mae'r rhai cyfiawn yn diogelu ei fywyd.

Diarhebion 29