Diarhebion 28:7-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Y mae plentyn deallus yn cadw'r gyfraith,ond y mae'r un sy'n cyfeillachu â'r glwth yn dwyn anfri ar ei rieni.

8. Y mae'r un sy'n cynyddu ei gyfoeth trwy log ac usuriaethyn ei gasglu i'r un sy'n garedig wrth y tlawd.

9. Pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y gyfraith,bydd ei weddi ef yn ffieidd-dra.

10. Bydd yr un sy'n camarwain yr uniawn i ffordd ddrwgyn syrthio ei hun i'r pwll a wnaeth;ond caiff y cywir etifeddiaeth dda.

11. Y mae'r cyfoethog yn ddoeth yn ei olwg ei hun,ond y mae'r tlawd deallus yn gweld trwyddo.

12. Pan yw'r cyfiawn yn llywodraethu, ceir urddas mawr;ond pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio.

13. Ni lwydda'r un sy'n cuddio'i droseddau,ond y mae'r un sy'n eu cyffesu ac yn cefnu arnynt yn cael trugaredd.

14. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD yn wastad;ond y mae'r un sy'n caledu ei galon yn disgyn i ddinistr.

15. Fel llew yn rhuo, neu arth yn rhuthro,felly y mae un drygionus yn llywodraethu pobl dlawd.

Diarhebion 28