Diarhebion 28:15-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Fel llew yn rhuo, neu arth yn rhuthro,felly y mae un drygionus yn llywodraethu pobl dlawd.

16. Y mae llywodraethwr heb ddeall yn pentyrru trawster,ond y mae'r un sy'n casáu llwgrwobr yn estyn ei ddyddiau.

17. Y mae un sy'n euog o dywallt gwaedyn ffoi i gyfeiriad y pwll;peidied neb â'i atal.

18. Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ddiogel,ond y mae'r sawl sy'n droellog ei ffyrdd yn syrthio i'r pwll.

19. Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn llawn tlodi.

20. Caiff y ffyddlon lawer o fendithion,ond ni fydd yr un sydd ar frys i ymgyfoethogi heb ei gosb.

21. Nid yw'n iawn dangos ffafr,ac eto fe drosedda rhywun am damaid o fara.

22. Y mae un cybyddlyd yn rhuthro am gyfoeth;nid yw'n ystyried y daw arno angen.

23. Caiff y sawl sy'n ceryddu fwy o barch yn y diweddna'r un sy'n gwenieithio.

24. Y mae'r un sy'n lladrata oddi ar ei dad neu ei fam,ac yn dweud nad yw'n drosedd,yn gymar i'r un sy'n dinistrio.

Diarhebion 28