Diarhebion 28:10-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Bydd yr un sy'n camarwain yr uniawn i ffordd ddrwgyn syrthio ei hun i'r pwll a wnaeth;ond caiff y cywir etifeddiaeth dda.

11. Y mae'r cyfoethog yn ddoeth yn ei olwg ei hun,ond y mae'r tlawd deallus yn gweld trwyddo.

12. Pan yw'r cyfiawn yn llywodraethu, ceir urddas mawr;ond pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio.

13. Ni lwydda'r un sy'n cuddio'i droseddau,ond y mae'r un sy'n eu cyffesu ac yn cefnu arnynt yn cael trugaredd.

14. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD yn wastad;ond y mae'r un sy'n caledu ei galon yn disgyn i ddinistr.

15. Fel llew yn rhuo, neu arth yn rhuthro,felly y mae un drygionus yn llywodraethu pobl dlawd.

16. Y mae llywodraethwr heb ddeall yn pentyrru trawster,ond y mae'r un sy'n casáu llwgrwobr yn estyn ei ddyddiau.

17. Y mae un sy'n euog o dywallt gwaedyn ffoi i gyfeiriad y pwll;peidied neb â'i atal.

Diarhebion 28