Diarhebion 28:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae'r drygionus yn ffoi heb i neb ei erlid,ond fe saif y cyfiawn yn gadarn fel llew.

2. Pan fydd gwlad mewn gwrthryfel bydd nifer o arweinwyr,ond trwy bobl synhwyrol a deallus y sefydlir trefn.

3. Y mae un tlawd yn gorthrymu tlodion,fel glaw yn curo cnwd heb adael cynnyrch.

4. Y mae'r rhai sy'n cefnu ar y gyfraith yn canmol y drygionus,ond y mae'r rhai sy'n cadw'r gyfraith yn ymladd yn eu herbyn.

5. Nid yw pobl ddrwg yn deall beth yw cyfiawnder,ond y mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn deall y cyfan.

Diarhebion 28