Diarhebion 27:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Diferion parhaus ar ddiwrnod glawog,tebyg i hynny yw gwraig yn cecru;

16. y mae ei hatal fel ceisio atal y gwynt,neu fel un yn ceisio dal olew yn ei law.

17. Y mae haearn yn hogi haearn,ac y mae pob un yn hogi meddwl ei gyfaill.

18. Yr un sy'n gofalu am ffigysbren sy'n bwyta'i ffrwyth,a'r sawl sy'n gwylio tros ei feistr sy'n cael anrhydedd.

Diarhebion 27