Diarhebion 27:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi,ond y mae'r gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.

13. Cymer wisg y sawl sy'n mynd yn feichiau dros ddyn dieithr,a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.

14. Y mae'r un sy'n bendithio'i gyfaill â llef uchel,ac yn codi'n fore i wneud hynny,yn cael ei ystyried yn un sy'n ei felltithio.

15. Diferion parhaus ar ddiwrnod glawog,tebyg i hynny yw gwraig yn cecru;

16. y mae ei hatal fel ceisio atal y gwynt,neu fel un yn ceisio dal olew yn ei law.

17. Y mae haearn yn hogi haearn,ac y mae pob un yn hogi meddwl ei gyfaill.

18. Yr un sy'n gofalu am ffigysbren sy'n bwyta'i ffrwyth,a'r sawl sy'n gwylio tros ei feistr sy'n cael anrhydedd.

19. Fel yr adlewyrchir wyneb mewn dŵr,felly y mae'r galon yn ddrych o'r unigolyn.

Diarhebion 27