Diarhebion 26:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Fel cydio yng nghlustiau ci sy'n mynd heibio,felly y mae ymyrryd yng nghweryl rhywun arall.

18. Fel rhywun gwallgof yn saethupentewynion â saethau marwol,

19. felly y mae'r un sy'n twyllo'i gymydog,ac yn dweud, “Dim ond cellwair yr oeddwn.”

20. Heb goed fe ddiffydd tân,a heb y straegar fe dderfydd am gynnen.

21. Fel glo i farwor, a choed i dân,felly y mae'r cwerylgar yn creu cynnen.

22. Y mae geiriau'r straegar fel danteithionsy'n mynd i lawr i'r cylla.

Diarhebion 26