Diarhebion 26:14-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Fel y mae drws yn troi ar ei golyn,felly y mae'r diog yn ei wely.

15. Y mae'r diog yn gwthio'i law i'r ddysgl,ond yn rhy ddiog i'w chodi i'w geg.

16. Y mae'r diog yn ddoethach yn ei olwg ei hunna saith o rai sy'n ateb yn synhwyrol.

17. Fel cydio yng nghlustiau ci sy'n mynd heibio,felly y mae ymyrryd yng nghweryl rhywun arall.

18. Fel rhywun gwallgof yn saethupentewynion â saethau marwol,

19. felly y mae'r un sy'n twyllo'i gymydog,ac yn dweud, “Dim ond cellwair yr oeddwn.”

20. Heb goed fe ddiffydd tân,a heb y straegar fe dderfydd am gynnen.

21. Fel glo i farwor, a choed i dân,felly y mae'r cwerylgar yn creu cynnen.

Diarhebion 26