Diarhebion 26:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fel eira yn yr haf, neu law yn ystod y cynhaeaf,felly nid yw anrhydedd yn gweddu i'r ffôl.

2. Fel aderyn y to yn hedfan, neu wennol yn gwibio,felly ni chyflawnir melltith ddiachos.

3. Chwip i geffyl, ffrwyn i asyn,a gwialen i gefn ffyliaid!

4. Paid ag ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,rhag i ti fynd yn debyg iddo.

5. Ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,rhag iddo fynd yn ddoeth yn ei olwg ei hun.

6. Y mae'r sawl sy'n anfon neges yn llaw ffŵlyn torri ymaith ei draed ei hun ac yn profi trais.

7. Fel coesau'r cloff yn honcian,felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.

8. Fel gosod carreg mewn ffon dafl,felly y mae rhoi anrhydedd i ffŵl.

Diarhebion 26