Diarhebion 25:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Paid ag ymddyrchafu yng ngŵydd y brenin,na sefyll yn lle'r mawrion,

7. oherwydd gwell yw cael dweud wrthyt am symud i fyny,na'th symud i lawr i wneud lle i bendefig.

8. Paid â brysio i wneud achos o'r hyn a welaist,rhag, wedi iti orffen gwneud hynny,i'th gymydog ddwyn gwarth arnat.

9. Dadlau dy achos â'th gymydog,ond paid â dadlennu cyfrinach rhywun arall,

10. rhag iddo dy sarhau pan glyw,a thithau'n methu galw dy annoethineb yn ôl.

Diarhebion 25