Diarhebion 25:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Fel dant drwg, neu droed yn llithro,felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd.

20. Fel diosg gwisg ar ddiwrnod oer,neu roi finegr ar friw,felly y mae canu caneuon i galon drist.

21. Os yw dy elyn yn newynu, rho iddo fara i'w fwyta,ac os yw'n sychedig, rho iddo ddŵr i'w yfed;

22. byddi felly'n pentyrru marwor ar ei ben,ac fe dâl yr ARGLWYDD iti.

Diarhebion 25