Diarhebion 25:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Ag amynedd gellir darbwyllo llywodraethwr,a gall tafod tyner dorri asgwrn.

16. Os cei fêl, bwyta'r hyn y mae ei angen arnat,rhag iti gymryd gormod, a'i daflu i fyny.

17. Paid â mynd yn rhy aml i dŷ dy gymydog,rhag iddo gael digon arnat, a'th gasáu.

18. Fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth loyw,felly y mae tyst yn dweud celwydd yn erbyn ei gymydog.

19. Fel dant drwg, neu droed yn llithro,felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd.

20. Fel diosg gwisg ar ddiwrnod oer,neu roi finegr ar friw,felly y mae canu caneuon i galon drist.

Diarhebion 25