Diarhebion 23:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Pryn wirionedd, a phaid â'i werthu;pryn ddoethineb, cyfarwyddyd a deall.

24. Bydd rhieni'r cyfiawn yn llawen iawn,a'r rhai a genhedlodd y doeth yn ymhyfrydu ynddo.

25. Bydded i'th dad a'th fam gael llawenydd,ac i'r un a esgorodd arnat gael hyfrydwch.

26. Fy mab, dal sylw arnaf,a bydded i'th lygaid ymhyfrydu yn fy ffyrdd.

27. Y mae'r butain fel pwll dwfn,a'r ddynes estron fel pydew cul;

28. y mae'n llercian fel lleidr,ac yn amlhau'r godinebwyr ymysg dynion.

Diarhebion 23