Diarhebion 22:19-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDDyr wyf yn eu dysgu iti heddiw—ie, i ti!

20. Onid wyf wedi ysgrifennu iti ddeg ar hugain o ddywediadau,yn llawn cyngor a deall,

21. i ddysgu iti wirionedd geiriau cywir,fel y gelli roi ateb cywir i'r rhai a'th anfonodd?

22. Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd,a phaid â sathru'r anghenus yn y porth;

23. oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn dadlau eu hachos,ac yn difetha'r rhai sy'n eu difetha hwy.

24. Paid â chyfeillachu â neb a chanddo dymer ddrwg,nac aros yng nghwmni'r dicllon,

25. rhag iti ddysgu ei ffordd,a'th gael dy hun mewn magl.

26. Paid â rhoi gwystl,a mynd yn feichiau am ddyledion;

27. os na fydd gennyt ddim i dalu,oni chymerir dy wely oddi arnat?

Diarhebion 22