Diarhebion 22:17-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion,a gosod dy feddwl ar fy neall;

18. oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon,ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau.

19. Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDDyr wyf yn eu dysgu iti heddiw—ie, i ti!

20. Onid wyf wedi ysgrifennu iti ddeg ar hugain o ddywediadau,yn llawn cyngor a deall,

21. i ddysgu iti wirionedd geiriau cywir,fel y gelli roi ateb cywir i'r rhai a'th anfonodd?

22. Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd,a phaid â sathru'r anghenus yn y porth;

23. oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn dadlau eu hachos,ac yn difetha'r rhai sy'n eu difetha hwy.

Diarhebion 22