Diarhebion 22:13-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Dywed y diog, “Y mae llew y tu allan;fe'm lleddir yn y stryd.”

14. Y mae genau'r wraig ddieithr fel pwll dwfn;y mae'r un a ddigiodd yr ARGLWYDD yn syrthio iddo.

15. Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn,ond y mae gwialen disgyblaeth yn ei yrru oddi wrtho.

16. Y sawl sy'n gorthrymu'r tlawd i geisio elw iddo'i hun,ac yn rhoi i'r cyfoethog, bydd hwnnw'n diweddu mewn angen.

17. Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion,a gosod dy feddwl ar fy neall;

18. oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon,ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau.

19. Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDDyr wyf yn eu dysgu iti heddiw—ie, i ti!

Diarhebion 22