Diarhebion 20:20-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam,diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew.

21. Os ceir etifeddiaeth sydyn yn y dechrau,ni bydd bendith ar ei diwedd.

22. Paid â dweud, “Talaf y pwyth yn ôl”;disgwyl wrth yr ARGLWYDD i achub dy gam.

23. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw amrywiaeth mewn pwysau,ac nid da ganddo gloriannau twyllodrus.

24. Yr ARGLWYDD sy'n rheoli camre pobl;sut y gall neb ddeall ei ffordd?

25. Gall rhywun fynd i fagl wrth gysegru'n fyrbwyll,ac yna dechrau ystyried ar ôl gwneud addunedau.

26. Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus,ac yn troi'r rhod yn eu herbyn.

Diarhebion 20