Diarhebion 20:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Cymer wisg y sawl sy'n mechnïo dros estron,a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.

17. Melys i rywun yw bara a gafwyd trwy dwyll,ond yn y diwedd llenwir ei geg â graean.

18. Sicrheir cynlluniau trwy gyngor;rhaid trefnu'n ofalus ar gyfer rhyfel.

19. Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach;paid â chyfeillachu â'r llac ei dafod.

20. Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam,diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew.

21. Os ceir etifeddiaeth sydyn yn y dechrau,ni bydd bendith ar ei diwedd.

Diarhebion 20