Diarhebion 2:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD,a chael gwybodaeth o Dduw.

6. Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb,ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall.

7. Y mae'n trysori craffter i'r uniawn;y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir.

8. Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder,ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid.

9. Yna byddi'n deall cyfiawnder a barn,ac uniondeb a phob ffordd dda;

10. oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl,a deall yn rhoi pleser iti.

Diarhebion 2