Diarhebion 2:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl,a deall yn rhoi pleser iti.

11. Bydd pwyll yn dy amddiffyn,a deall yn dy warchod,

12. ac yn dy gadw rhag ffordd drygioni,a rhag y rhai sy'n siarad yn dwyllodrus—

13. y rhai sy'n gadael y ffordd iawni rodio yn llwybrau tywyllwch,

14. sy'n cael pleser mewn gwneud drwga mwynhad mewn twyll,

15. y rhai y mae eu ffordd yn gama'u llwybrau'n droellog.

16. Fe'th geidw oddi wrth y wraig ddieithr,a rhag y ddynes estron a'i geiriau dengar,

17. sydd wedi gadael cymar ei hieuenctid,ac wedi anghofio cyfamod ei Duw.

18. Oherwydd y mae ei thŷ yn gwyro at angau,a'i llwybrau at y cysgodion.

Diarhebion 2