1. Fy mab, os derbynni fy ngeiriau,a thrysori fy ngorchmynion,
2. a gwrando'n astud ar ddoethineb,a rhoi dy feddwl ar ddeall;
3. os gelwi am ddeall,a chodi dy lais am wybodaeth,
4. a chwilio amdani fel am arian,a chloddio amdani fel am drysor—
5. yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD,a chael gwybodaeth o Dduw.
6. Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb,ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall.
7. Y mae'n trysori craffter i'r uniawn;y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir.
8. Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder,ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid.
9. Yna byddi'n deall cyfiawnder a barn,ac uniondeb a phob ffordd dda;
10. oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl,a deall yn rhoi pleser iti.