Diarhebion 19:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Nid yw moethusrwydd yn gweddu i'r ynfyd,na rheoli tywysogion i gaethwas.

11. Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar,a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd.

12. Y mae llid brenin fel rhuad llew ifanc,ond ei ffafr fel gwlith ar laswellt.

13. Y mae mab ynfyd yn ddinistr i'w dad,a checru gwraig fel diferion parhaus.

14. Oddi wrth rieni yr etifeddir tŷ a chyfoeth,ond gan yr ARGLWYDD y ceir gwraig ddeallus.

15. Y mae segurdod yn dwyn trymgwsg,ac i'r diogyn daw newyn.

16. Y mae'r un sy'n cadw gorchymyn yn ei ddiogelu ei hun,ond bydd y sawl sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw.

17. Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD,ac fe dâl ef yn ôl iddo am ei weithred.

18. Cerydda dy fab tra bo gobaith iddo,ond gofala beidio â'i ladd.

Diarhebion 19