Diarhebion 19:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwell yw'r tlawd sy'n byw'n onestna'r un twyllodrus ei eiriau, ac yntau'n ynfyd.

2. Nid oes gwerth mewn brwdfrydedd heb ddeall;y mae'r chwim ei droed yn colli'r ffordd.

3. Ffolineb rhywun sy'n difetha'i ffordd,ond yn erbyn yr ARGLWYDD y mae'n dal dig.

4. Y mae cyfoeth yn amlhau cyfeillion,ond colli ei gyfaill y mae'r tlawd.

5. Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb,ac ni ddianc yr un sy'n dweud celwydd.

Diarhebion 19