Diarhebion 17:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Gwell yw cyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawonna chyfarfod ag ynfytyn yn ei ffolineb.

13. Os bydd i neb dalu drwg am dda,nid ymedy dinistr â'i dŷ.

14. Y mae dechrau cweryl fel diferiad dŵr;ymatal di cyn i'r gynnen lifo allan.

15. Cyfiawnhau'r drygionus a chondemnio'r cyfiawn—y mae'r ddau fel ei gilydd yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.

16. Pa werth sydd i arian yn llaw ynfytyn?Ai i brynu doethineb, ac yntau heb ddeall?

17. Y mae cyfaill yn gyfaill bob amser;ar gyfer adfyd y genir brawd.

Diarhebion 17