Diarhebion 17:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Ar wrthryfela y mae bryd y drygionus,ond fe anfonir cennad creulon yn ei erbyn.

12. Gwell yw cyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawonna chyfarfod ag ynfytyn yn ei ffolineb.

13. Os bydd i neb dalu drwg am dda,nid ymedy dinistr â'i dŷ.

14. Y mae dechrau cweryl fel diferiad dŵr;ymatal di cyn i'r gynnen lifo allan.

15. Cyfiawnhau'r drygionus a chondemnio'r cyfiawn—y mae'r ddau fel ei gilydd yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.

16. Pa werth sydd i arian yn llaw ynfytyn?Ai i brynu doethineb, ac yntau heb ddeall?

Diarhebion 17