Diarhebion 16:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Pan yw'r ARGLWYDD yn hoffi ffyrdd rhywun,gwna hyd yn oed i'w elynion fyw mewn heddwch ag ef.

8. Gwell ychydig gyda chyfiawndernag enillion mawr heb farn.

9. Y mae meddwl rhywun yn cynllunio'i ffordd,ond yr ARGLWYDD sy'n trefnu ei gamre.

10. Ceir dyfarniad oddi ar wefusau'r brenin;nid yw ei enau yn bradychu cyfiawnder.

11. Mater i'r ARGLWYDD yw mantol a chloriannau cyfiawn;a'i waith ef yw'r holl bwysau yn y god.

12. Ffiaidd gan frenhinoedd yw gwneud drwg,oherwydd trwy gyfiawnder y sicrheir gorsedd.

Diarhebion 16