Diarhebion 16:28-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Y mae rhywun croes yn creu cynnen,a'r straegar yn gwahanu cyfeillion.

29. Y mae rhywun traws yn denu ei gyfaill,ac yn ei arwain ar ffordd wael.

30. Y mae'r un sy'n wincio llygad yn cynllunio trawster,a'r sawl sy'n crychu ei wefusau yn gwneud drygioni.

31. Y mae gwallt sy'n britho yn goron anrhydedd;fe'i ceir wrth rodio'n gyfiawn.

32. Gwell bod yn amyneddgar nag yn rhyfelwr,a rheoli tymer na chipio dinas.

Diarhebion 16