Diarhebion 16:24-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Y mae geiriau teg fel diliau mêl,yn felys i'r blas ac yn iechyd i'r corff.

25. Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union,ond sy'n arwain i farwolaeth.

26. Angen llafurwr sy'n gwneud iddo lafurio,a'i enau sy'n ei annog ymlaen.

27. Y mae dihiryn yn cynllunio drwg;y mae fel tân poeth ar ei wefusau.

28. Y mae rhywun croes yn creu cynnen,a'r straegar yn gwahanu cyfeillion.

29. Y mae rhywun traws yn denu ei gyfaill,ac yn ei arwain ar ffordd wael.

Diarhebion 16