Diarhebion 16:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Mater i'r ARGLWYDD yw mantol a chloriannau cyfiawn;a'i waith ef yw'r holl bwysau yn y god.

12. Ffiaidd gan frenhinoedd yw gwneud drwg,oherwydd trwy gyfiawnder y sicrheir gorsedd.

13. Hyfrydwch brenin yw genau cyfiawn,a hoffa'r sawl sy'n llefaru'n uniawn.

14. Y mae llid brenin yn gennad angau,ond fe'i dofir gan yr un doeth.

15. Yn llewyrch wyneb brenin y ceir bywyd,ac y mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn.

Diarhebion 16