Diarhebion 15:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw aberth y drygionus,ond y mae gweddi'r uniawn wrth ei fodd.

9. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw ffordd y drygionus,ond y mae'n caru'r rhai sy'n dilyn cyfiawnder.

10. Bydd disgyblaeth lem ar yr un sy'n gadael y ffordd,a bydd y sawl sy'n casáu cerydd yn trengi.

11. Y mae Sheol ac Abadon dan lygad yr ARGLWYDD;pa faint mwy feddyliau pobl?

12. Nid yw'r gwatwarwr yn hoffi cerydd;nid yw'n cyfeillachu â'r doethion.

Diarhebion 15