Diarhebion 15:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Diystyra'r ffôl ddisgyblaeth ei dad,ond deallus yw'r un a rydd sylw i gerydd.

6. Y mae llawer o gyfoeth yn nhŷ'r cyfiawn,ond trallod sydd yn enillion y drygionus.

7. Gwasgaru gwybodaeth y mae genau'r doeth,ond nid felly feddwl y ffyliaid.

8. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw aberth y drygionus,ond y mae gweddi'r uniawn wrth ei fodd.

9. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw ffordd y drygionus,ond y mae'n caru'r rhai sy'n dilyn cyfiawnder.

Diarhebion 15