Diarhebion 15:3-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ym mhob man,yn gwylio'r drwg a'r da.

4. Y mae tafod tyner yn bren bywiol,ond tafod garw yn dryllio'r ysbryd.

5. Diystyra'r ffôl ddisgyblaeth ei dad,ond deallus yw'r un a rydd sylw i gerydd.

6. Y mae llawer o gyfoeth yn nhŷ'r cyfiawn,ond trallod sydd yn enillion y drygionus.

7. Gwasgaru gwybodaeth y mae genau'r doeth,ond nid felly feddwl y ffyliaid.

8. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw aberth y drygionus,ond y mae gweddi'r uniawn wrth ei fodd.

9. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw ffordd y drygionus,ond y mae'n caru'r rhai sy'n dilyn cyfiawnder.

10. Bydd disgyblaeth lem ar yr un sy'n gadael y ffordd,a bydd y sawl sy'n casáu cerydd yn trengi.

11. Y mae Sheol ac Abadon dan lygad yr ARGLWYDD;pa faint mwy feddyliau pobl?

12. Nid yw'r gwatwarwr yn hoffi cerydd;nid yw'n cyfeillachu â'r doethion.

13. Y mae calon lawen yn sirioli'r wyneb,ond dryllir yr ysbryd gan boen meddwl.

14. Y mae calon ddeallus yn ceisio gwybodaeth,ond y mae genau'r ffyliaid yn ymborthi ar ffolineb.

15. I'r cystuddiol, y mae pob diwrnod yn flinderus,ond y mae calon hapus yn wledd wastadol.

16. Gwell ychydig gydag ofn yr ARGLWYDDna chyfoeth mawr a thrallod gydag ef.

17. Gwell yw pryd o lysiau lle mae cariad,nag ych pasgedig a chasineb gydag ef.

18. Y mae un drwg ei dymer yn codi cynnen,ond y mae'r amyneddgar yn tawelu cweryl.

19. Y mae ffordd y diog fel llwyn mieri,ond llwybr yr uniawn fel priffordd wastad.

Diarhebion 15